top of page

Mae Cyngor Cymuned Treuddyn yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chryfderau’r sector gwirfoddol lleol ac yn cydnabod ei rôl annibynnol fel ffynhonnell gwasanaethau gwerthfawr yn y gymuned.

​

Nodau Grantiau Cymunedol:

  • Helpu grwpiau gwirfoddol sy'n gweithio yn y gymuned i wella eu heffeithiolrwydd

  • Helpu i sicrhau’r ddarpariaeth o wasanaethau sydd eu hangen ar drigolion drwy’r sector gwirfoddol

  • Cefnogi sefydliadau sy'n diwallu anghenion pobl sy'n profi anawsterau cymdeithasol ac economaidd

  • Sicrhau bod mynediad a chyfle cyfartal i'r holl drigolion at y gwasanaethau a'r cyllid y mae'n eu darparu i gynyddu cynhwysiant cymunedol

 

Mae’r Cyngor Cymuned yn diffinio grŵp gwirfoddol fel sefydliad ‘nid-er-elw’, wedi’i sefydlu a’i redeg gan bwyllgor rheoli gwirfoddol neu elusen gofrestredig.

 

Mae’r ddogfen ganlynol yn rhoi egwyddorion cyllido cyffredinol y Cyngor Cymuned ac yn manylu ar ei ddisgwyliadau o bob grŵp sy’n derbyn Grant Cymunedol.

Ffurflen Gais Grantiau Cymunedol Treuddyn

CYNGOR CYMUNED TREUDDYN
GRANTIAU CYMUNEDOL

treuddyn-logo-9.png
bottom of page