Y Grug a'r Caerau
Mae'r bryniau o amgylch Treuddyn yn arbennig. Mae Bryniau Clwyd yn asgwrn cefn o fryniau tonnog porffor, sy'n codi uwchben lloriau'r dyffrynnoedd. Mae rhostir yr ucheldir yn cynnwys clytwaith o rug, llus ac eithin.
​
Mae’n gartref i gymuned arbennig o adar ucheldir sy’n nythu fel y rugiar ddu brin, y rugiar goch, boda tinwyn, cudyll bach, mwyalchen y mynydd, crec yr eithin a tinwen y garn. Mae'r dirwedd yn dal ôl troed cymunedau a diwylliannau'r gorffennol, wedi'u dominyddu gan gadwyn eithriadol o fryngaerau o'r Oes Haearn.
Teithiau Cerdded Cylch Treuddyn
Teithiau cerdded cylchol yn y pentref a'r ardal ehangach.
Clawdd Offa
Mae Clawdd Offa yn wrthglawdd llinol rhyfeddol 1200 mlwydd oed sy’n rhedeg trwy’r gororau rhwng Cymru a Lloegr o Dreuddyn (ger Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru) i Glogwyni Sedbury (ar aber yr Hafren, yn ne Swydd Gaerloyw).
Swans Farm Trail
Taith gerdded gylchol o Fferm y Ffrith, Treuddyn
Coed Talon
Dau goetir llydanddail yn dilyn nentydd.
Taith Hamdden Sir y Fflint
Mae Taith Hamdden Sir y Fflint yn mynd trwy gymuned Treuddyn.